Cyfraith sifil - Cyffredinol
Mwynha Siambrau Angel enw gwych am wasanaeth da i gleientiaid proffesiynol a lleyg fel ei gilydd, lle darparant gyfrinachedd llwyr i gleientiaid.
Cynigia’n tîm sifil fargyfreithwyr sy’n arbenigo mewn:
- Cyflogaeth
- Disgyblaeth broffesiynol a chyfraith reoleiddiol
- Niwed personol
- Anghydfodau contract
- Siawnsri
- Camau gan yr Heddlu
- Ymholiadau a Chwestau
Mae aelodau’r tîm yn ymgymryd â gwaith sifil ar draws sbectrwm yr Uchel Lys, y Llys Sirol, Tribiwnlysoedd, Cwestau, dull amgen o ddatrys anghydfod a Chyflafareddu. Rydym yn delio ag achosion llwybr amryfal, llwybr cyflym a hawliadau bach yn ogystal â phyrth perthnasol yn rheolaidd.
Gall y tîm sifil fanteisio ar gyfleusterau cynadledda modern, mawr ac o’r radd flaenaf. Mae’r cyfleusterau’n hynod dda ar gyfer cyfarfodydd setlo ar y cyd ac anghenion cynadledda mwy o faint eraill, gan gynnwys seminarau.
Mae aelodau’r tîm yn ymgymryd â gwaith ar gyfer yswirwyr costau cyfreithiol yn gyson, dan CFAs ac ar sail cyfarwyddiadau preifat. At hynny, mae gan aelodau gymwysterau mynediad uniongyrchol.
Meysydd ymarfer