Cyfraith teulu
Mae Simon yn ymarferydd teulu profiadol sy’n arbenigo mewn achosion sy’n ymwneud â phlant. Mae’n ymgymryd â gwaith cyfraith gyhoeddus a phreifat ar bob lefel hyd at ac yn cynnwys y Llys Apêl. Derbynia Simon hefyd gyfarwyddyd ar gyfer Ysgariad a Ymleddir, Anghydfodau Cydbreswylwyr a materion Llys Gwarchod.
Cyfraith gyhoeddus
Cynrychiola Simon Awdurdodau Lleol, rhieni, gwarcheidwaid a phlant ar bob lefel. Mae’n brofiadol mewn achosion sy’n ymwneud â cham-drin corfforol, rhywiol ac emosiynol difrifol, ac esgeulustod. Mae gan Simon brofiad o achosion sy’n cynnwys materion awdurdodaeth a materion cyfreithiol cymhleth eraill. Yn aml, cynrychiola Simon gleientiaid agored i niwed gan gynnwys rhai ag anhwylderau personoliaeth ac anawsterau dysgu.
Cyfraith breifat
Mae Simon yn cynrychioli rhieni a gwarcheidwaid ym mhob math o anghydfodau plant cyfraith breifat gan gynnwys ceisiadau i eithrio o awdurdodaeth ac achosion sy’n cynnwys honiadau o gam-drin corfforol, rhywiol ac emosiynol difrifol.
Achosion Nodedig
Re K (A Child) [2017] EWCA Civ 2720
Re B-L (Children) [2017] EWCA Civ 1878
Re M (A Child) (Secure Accommodation) [2018] EWCA Civ 2707
A v Cardiff City Council, B, X, Y [2019] EWCA Civ 1360.