Cyfraith trosedd
Caiff Hannah gyfarwyddyd cyson i’r erlyniad a’r amddiffyniad yn Llysoedd y Goron, Ynadon ac Ieuenctid. Mae hi wedi ymgymryd â chasgliad o gyfarwyddiadau yn Llys y Goron, gan gynnwys: treialon, gwrandawiadau dedfrydau, apeliadau ac achosion atafaelu. Mae hi’n delio ag amrywiaeth eang o droseddau gan gynnwys twyll, cyffuriau, moduro a throseddau treisgar a rhywiol. Mae Hannah yn Erlynydd Gradd 3 ar Banel Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Rheoleiddiol
Caiff Hannah gyfarwyddyd mewn perthynas ag erlyniadau a ddygwyd ar ran Awdurdodau Lleol. Mae hi wedi gweithredu mewn achosion sy’n cynnwys diogelwch cynnyrch ac arferion masnachol annheg / ymosodol.