Cyfraith teulu
Mae Natasha yn ymarfer ym maes cyfraith teulu yn unig gyda ffocws penodol ar achosion gofal a mabwysiadu. Mae ei phractis yn arbenigo mewn achosion yn ymwneud â honiadau difrifol o anafiadau nad ydynt yn ddamweiniol, esgeulustod a cham-drin rhywiol. Mae hi'n weithgar ac yn rhoi sylw i fanylion. Mae Natasha yn cynrychioli Awdurdodau Lleol, Gwarcheidwaid Plant, Ymyrwyr a chaiff ei chyfarwyddo'n bennaf ar ran Rhieni. Mae'n gallu esbonio cysyniadau cyfreithiol anodd mewn ffordd hawdd ei deall ac yn mabwysiadu modd sensitif wrth ymdrin â chleientiaid bregus sydd weithiau angen cymorth y Cyfreithiwr Swyddogol, cyfryngwyr a/neu eiriolwyr. Mae Natasha yn drylwyr wrth baratoi ei hachos ac yn cymryd agwedd bragmatig at ei chyfarwyddiadau.
Mae Natasha yn darparu hyfforddiant DPP fel aelod o Dîm Teulu Siambrau Angel i awdurdodau lleol a chyfreithwyr am ddatblygiadau diweddar mewn cyfraith achosion a deddfwriaeth.