Mynediad cyhoeddus

Erbyn hyn, gall unrhyw un fynd yn syth at fargyfreithiwr heb orfod cysylltu ag unrhyw un arall (e.e. cyfreithiwr). Yn ei hanfod, mae rôl y bargyfreithiwr yn aros yr un fath â phan eir cyfreithiwr neu gyfryngwr arall atyn nhw.

Gall bargyfreithwyr eich cynghori chi ar eich statws neu hawliau cyfreithiol. Gall bargyfreithwyr ddrafftio ac anfon dogfennau atoch a gallant eich cynrychioli yn y llys, mewn tribiwnlysoedd neu sesiynau cyfryngdod. Gall bargyfreithwyr hefyd drafod ar eich rhan a gallant fynychu cyfweliadau a gwrandawiadau cyflogaeth neu ddisgyblu lle bo’n briodol.

At ei gilydd, nid yw bargyfreithwyr yn cyfreitha (h.y. yn ffeilio dogfennau yn y llys nac yn eu cyflwyno nhw i’r gwrthwynebydd) ac mewn rhai achosion a sefyllfaoedd, efallai y bydd angen i chi roi cyfarwyddyd i gyfreithiwr neu gyfryngwr arall yn ogystal â bargyfreithiwr. Fodd bynnag, ar gyfer sawl achos, mae’r cynllun mynediad cyhoeddus yn eich galluogi i fynd yn syth at y bargyfreithiwr arbenigol am gyngor, cynrychiolaeth a drafftio. Byddwn yn eich cynghori chi o ran ydy’ch achos neu broblem gyfreithiol yn addas ar gyfer rhoi cyfarwyddyd i fargyfreithiwr yn uniongyrchol neu ydyw’n fwy priodol i chi roi cyfarwyddyd i gyfreithiwr.

Er mwyn holi ynghylch argaeledd ac arbenigedd bargyfreithiwr i weddu i chi, anfonwch e-bost o’r ymholiad at:- clerks@angelchambers.co.uk ac/neu ffoniwch y clercod ar 01792 464623.

Wrth wneud eich ymholiad, byddwch yn barod i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:-
a. Eich enw llawn.
b. Enw’ch gwrthwynebydd (os yn berthnasol).
c. Eich cyfeiriad e-bost.
d. Eich manylion cysylltu dros y ffôn
e. Manylion cryno ar yr achos ac:
f. Os yn amlwg, maes y gyfraith sy’n berthnasol i’ch achos.
g. Dyddiadau unrhyw wrandawiadau neu ddyddiadau cau (e.e. at ddibenion ffeilio/cyflwyno dogfen).

Mae Cyngor y Bar wedi llunio canllawiau i gynorthwyo pobl sy’n ystyried ydy cyfarwyddyd uniongyrchol i fargyfreithiwr yn addas ar gyfer eu gofynion eu hunain. Fe’ch anogwn i ddarllen y canllawiau hynny. Gellir eu canfod trwy glicio ar y ddolen ganlynol: Canllawiau_Mynediad_Cyhoeddus.

Mae cryn dipyn o’r canllawiau’n mynd i’r afael â chwestiynau cyffredin ac mae’n debygol y byddant yn rhoi i chi’r atebion i’r cwestiynau a allai fod gennych. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach neu ychwanegol nad yw’r canllawiau’n ymdrin â nhw, mae croeso i chi ofyn i’n clercod a fydd yn ymgynghori ag aelod-fargyfreithwyr y siambrau i ateb eich ymholiad fel y bo angen.

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â mynediad cyhoeddus, cysylltwch â'r clercod ar:

01792 464623

clerks@angelchambers.co.uk

Mynediad cyhoeddus

bargyfreithwyr

Matthew Rees KC
Matthew Rees KC
Galwad i’r bar: 1996 Gray's Inn. | Silk: 2024
Ardaloedd ymarfer
  • Cyfraith teulu
Joanna Wood
Joanna Wood
Galwad i’r bar: 1989 | Y Deml Fewnol
Ardaloedd ymarfer
  • Cyfraith teulu
Susan Jenkins
Susan Jenkins
Galwad i’r bar: 1998 | Gray’s Inn
Ardaloedd ymarfer
Clare Templeman
Clare Templeman
Galwad i’r bar: 2004 | Y Deml Fewnol
Ardaloedd ymarfer
  • Cyfraith teulu
Simon Stephenson
Simon Stephenson
Galwad i’r bar: 2005 | Y Deml Fewnol
Ardaloedd ymarfer
  • Cyfraith teulu
Iain Alba
Galwad i’r bar: 2006 | Y Deml Fewnol
Ardaloedd ymarfer
  • Cyfraith teulu
Catrin Jenkins
Catrin Jenkins
Galwad i’r bar: 2010 | Gray’s Inn
Ardaloedd ymarfer
  • Cyfraith teulu
Mae’n cynnal achosion yn y Gymraeg a’r Saesneg
Ashanti-Jade Walton
Ashanti-Jade Walton
Galwad i’r bar: 2016 | Y Deml Fewnol
Ardaloedd ymarfer
  • Cyfraith trosedd